Neidio i'r cynnwys

Mathew 3:2-3 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion

Mathew 3:2-3 BNET (beibl.net 2015, 2024)

Dyma’r neges oedd ganddo, “Trowch gefn ar bechod, achos mae’r Un nefol yn dod i deyrnasu.” Dyma pwy oedd y proffwyd Eseia wedi sôn amdano: “Llais yn gweiddi’n uchel yn yr anialwch, ‘Paratowch y ffordd i’r Arglwydd ddod! Gwnewch y llwybrau’n syth iddo!’”

Mathew 3:2-3 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)

“Edifarhewch, oherwydd y mae teyrnas nefoedd wedi dod yn agos.” Dyma'r hwn y soniwyd amdano gan y proffwyd Eseia pan ddywedodd: “Llais un yn galw yn yr anialwch, ‘Paratowch ffordd yr Arglwydd, unionwch y llwybrau iddo.’ ”

Mathew 3:2-3 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)

A dywedyd, Edifarhewch: canys nesaodd teyrnas nefoedd. Oblegid hwn yw efe yr hwn y dywedwyd amdano gan Eseias y proffwyd, gan ddywedyd, Llef un yn llefain yn y diffeithwch, Paratowch ffordd yr Arglwydd; gwnewch yn union ei lwybrau ef.