Mathew 27:60 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion
Mathew 27:60 BNET (beibl.net 2015, 2024)
Yna fe’i rhoddodd i orwedd yn ei fedd newydd ei hun, un wedi’i naddu yn y graig. Wedyn, ar ôl rholio carreg drom dros geg y bedd, aeth i ffwrdd.
Mathew 27:60 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
a'i osod yn ei fedd newydd ef ei hun, yr oedd wedi ei naddu yn y graig. Yna treiglodd faen mawr wrth ddrws y bedd ac aeth ymaith.
Mathew 27:60 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac a’i gosododd ef yn ei fedd newydd ei hun, yr hwn a dorasai efe yn y graig; ac a dreiglodd faen mawr wrth ddrws y bedd, ac a aeth ymaith.