Mathew 27:29 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion
Mathew 27:29 BNET (beibl.net 2015, 2024)
plethu drain i wneud coron i’w rhoi ar ei ben, rhoi gwialen yn ei law dde a phenlinio o’i flaen a gwneud hwyl am ei ben. “Eich mawrhydi! Brenin yr Iddewon!” medden nhw.
Mathew 27:29 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
plethasant goron o ddrain a'i gosod ar ei ben, a gwialen yn ei law dde. Aethant ar eu gliniau o'i flaen a'i watwar: “Henffych well, Frenin yr Iddewon!”
Mathew 27:29 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A chwedi iddynt blethu coron o ddrain, hwy a’i gosodasant ar ei ben ef, a chorsen yn ei law ddeau; ac a blygasant eu gliniau ger ei fron ef, ac a’i gwatwarasant, gan ddywedyd, Henffych well, brenin yr Iddewon.