Skip to content

Mathew 25:10 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion

Mathew 25:10 BNET (beibl.net 2015, 2024)

“Ond tra oedden nhw allan yn prynu mwy o olew, dyma’r priodfab yn cyrraedd. Aeth y morynion oedd yn barod i mewn i’r wledd briodas gydag e, a dyma’r drws yn cael ei gau.

Mathew 25:10 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)

A thra oeddent yn mynd i brynu'r olew, cyrhaeddodd y priodfab, ac aeth y rhai oedd yn barod i mewn gydag ef i'r wledd briodas, a chlowyd y drws.

Mathew 25:10 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)

A thra oeddynt yn myned ymaith i brynu, daeth y priodfab; a’r rhai oedd barod, a aethant i mewn gydag ef i’r briodas: a chaewyd y drws.