Skip to content
Logo Ap Beibl

Mathew 23:13 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion

Mathew 23:13 BNET (beibl.net 2015, 2024)

“Gwae chi’r arbenigwyr yn y Gyfraith a Phariseaid! Dych chi mor ddauwynebog! Dych chi’n cau drws yn wyneb pobl, a’u rhwystro rhag dod dan deyrnasiad yr Un nefol. Dych chi’ch hunain ddim yn mynd i mewn, nac yn fodlon gadael i unrhyw un sydd am fynd i mewn gael mynediad.

Mathew 23:13 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)

“Gwae chwi, ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr, oherwydd yr ydych yn cau drws teyrnas nefoedd yn wyneb pobl; nid ydych yn mynd i mewn eich hunain, nac yn gadael i'r rhai sydd am fynd i mewn wneud hynny.

Mathew 23:13 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)

Eithr gwae chwi, ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr! canys yr ydych yn cau teyrnas nefoedd o flaen dynion: canys chwi nid ydych yn myned i mewn, a’r rhai sydd yn myned i mewn nis gadewch i fyned i mewn.