Skip to content
Logo Ap Beibl

Mathew 2:3-4 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion

Mathew 2:3-4 BNET (beibl.net 2015, 2024)

Pan glywodd y Brenin Herod hyn roedd wedi cynhyrfu’n lân. Roedd cynnwrf yn Jerwsalem hefyd. Felly galwodd Herod y prif offeiriaid a’r arbenigwyr yn y Gyfraith Iddewig i’w gyfarfod. Gofynnodd iddyn nhw, “Ble mae’r Meseia i fod i gael ei eni?”

Mathew 2:3-4 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)

A phan glywodd y Brenin Herod hyn, cythruddwyd ef, a Jerwsalem i gyd gydag ef. Galwodd ynghyd yr holl brif offeiriaid ac ysgrifenyddion y bobl, a holi ganddynt ble yr oedd y Meseia i gael ei eni.

Mathew 2:3-4 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)

Ond pan glybu Herod frenin, efe a gyffrowyd, a holl Jerwsalem gydag ef. A chwedi dwyn ynghyd yr holl archoffeiriaid ac ysgrifenyddion y bobl, efe a ymofynnodd â hwynt pa le y genid Crist.