Mathew 17:27 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion
Mathew 17:27 BNET (beibl.net 2015, 2024)
“Ond rhag i ni beri tramgwydd iddyn nhw, dos at y llyn a thaflu lein i’r dŵr. Cymer y pysgodyn cyntaf wnei di ei ddal, ac yn ei geg cei ddarn arian fydd yn ddigon i’w dalu. Defnyddia hwnnw i dalu’r dreth drosto i a thithau.”
Mathew 17:27 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond rhag i ni beri tramgwydd iddynt, dos at y môr a bwrw fachyn iddo, a chymer y pysgodyn cyntaf a ddaw i fyny. Agor ei geg ac fe gei ddarn arian. Cymer hwnnw a rho ef iddynt drosof fi a thithau.”
Mathew 17:27 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Er hynny, rhag i ni eu rhwystro hwy, dos i’r môr, a bwrw fach, a chymer y pysgodyn a ddêl i fyny yn gyntaf; ac wedi iti agoryd ei safn, ti a gei ddarn o arian: cymer hwnnw, a dyro iddynt drosof fi a thithau.