Skip to content
Logo Ap Beibl

Mathew 11:7 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion

Mathew 11:7 BNET (beibl.net 2015, 2024)

Wrth i ddisgyblion Ioan adael, dechreuodd Iesu siarad â’r dyrfa am Ioan: “Sut ddyn aethoch chi allan i’r anialwch i’w weld? Brwynen wan yn cael ei chwythu i bob cyfeiriad gan y gwynt?

Mathew 11:7 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)

Wrth i ddisgyblion Ioan fynd ymaith, dechreuodd Iesu sôn am Ioan wrth y tyrfaoedd. “Beth yr aethoch allan i'r anialwch i edrych arno? Ai brwynen yn siglo yn y gwynt?

Mathew 11:7 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)

Ac a hwy yn myned ymaith, yr Iesu a ddechreuodd ddywedyd wrth y bobloedd am Ioan, Pa beth yr aethoch allan i’r anialwch i edrych amdano? ai corsen yn ysgwyd gan wynt?