Mathew 10:25 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion
Mathew 10:25 BNET (beibl.net 2015, 2024)
Mae’n ddigon i ddisgybl fod yn debyg i’w athro, ac i gaethwas fod fel ei feistr. Os ydy pennaeth y tŷ yn cael ei alw’n Beelsebwl (hynny ydy y diafol), ydy pawb arall yn y teulu’n disgwyl cael pethau’n haws?
Mathew 10:25 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Digon i'r disgybl yw bod fel ei athro, a'r gwas fel ei feistr. Os galwasant feistr y tŷ yn Beelsebwl, pa faint mwy ei deulu?
Mathew 10:25 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Digon i’r disgybl fod fel ei athro, a’r gwas fel ei arglwydd. Os galwasant berchen y tŷ yn Beelsebub, pa faint mwy ei dylwyth ef?