Lefiticus 3:2 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion
Lefiticus 3:2 BNET (beibl.net 2015, 2024)
Rhaid i’r person sy’n ei gyflwyno osod ei law ar ben yr anifail ac yna ei ladd o flaen y fynedfa i’r Tabernacl. Wedyn bydd yr offeiriaid, disgynyddion Aaron, yn sblasio’r gwaed o gwmpas yr allor.
Rhanna
Lefiticus 3 BNETLefiticus 3:2 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y mae i osod ei law ar ben yr offrwm a'i ladd wrth ddrws pabell y cyfarfod; yna bydd meibion Aaron, yr offeiriaid, yn lluchio'r gwaed ar bob ochr i'r allor.
Rhanna
Lefiticus 3 BCNDLefiticus 3:2 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A rhodded ei law ar ben ei offrwm, a lladded ef wrth ddrws pabell y cyfarfod: a thaenelled meibion Aaron, yr offeiriaid, y gwaed ar yr allor o amgylch.
Rhanna
Lefiticus 3 BWM