Skip to content
Logo Ap Beibl

Lefiticus 2:2 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion

Lefiticus 2:2 BNET (beibl.net 2015, 2024)

Wedyn mynd ag e at yr offeiriaid, disgynyddion Aaron. Bydd un ohonyn nhw yn cymryd llond llaw o’r blawd gwenith a’r olew, a’r thus i gyd, ac yn llosgi hwnnw fel ernes ar yr allor. Mae’n rhodd sy’n arogli’n hyfryd i’r ARGLWYDD.

Lefiticus 2:2 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)

Y mae i fynd ag ef at feibion Aaron, yr offeiriaid; yna bydd offeiriad yn cymryd dyrnaid o'r peilliaid a'r olew, ynghyd â'r holl thus, ac yn ei losgi'n gyfran goffa ar yr allor, yn offrwm trwy dân, yn arogl peraidd i'r ARGLWYDD.

Lefiticus 2:2 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)

A dyged ef at feibion Aaron, yr offeiriaid: a chymered efe oddi yno lonaid ei law o’i beilliaid, ac o’i olew, ynghyd â’i holl thus; a llosged yr offeiriad ei goffadwriaeth ar yr allor, yn offrwm tanllyd o arogl peraidd i’r ARGLWYDD.