Josua 7:26 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion
Josua 7:26 BNET (beibl.net 2015, 2024)
Yna codon nhw bentwr mawr o gerrig drosto – sy’n dal yna hyd heddiw. A dyma’r ARGLWYDD yn stopio bod yn ddig hefo nhw wedyn. A dyna pam mae’r lle yn cael ei alw yn Ddyffryn Achor ers hynny (sef ‘Dyffryn y Drychineb’).
Josua 7:26 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Codasant drosto garnedd fawr o gerrig sydd yno hyd heddiw; yna peidiodd digofaint yr ARGLWYDD. Dyna pam y gelwir y lle hwnnw'n ddyffryn Achor hyd y dydd hwn.
Josua 7:26 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A chodasant arno ef garnedd fawr o gerrig hyd y dydd hwn. Felly y dychwelodd yr ARGLWYDD oddi wrth lid ei ddigofaint. Am hynny y gelwir enw y fan honno Dyffryn Achor, hyd y dydd hwn.