Hosea 2:9 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion
Hosea 2:9 BNET (beibl.net 2015, 2024)
Felly, dw i’n mynd i gymryd yr ŷd yn ôl, a’r cynhaeaf grawnwin hefyd. Dw i’n mynd i gymryd yn ôl y gwlân a’r llin oeddwn i wedi’i rhoi iddi i’w gwisgo.
Hosea 2:9 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Felly, cymeraf yn ôl fy ŷd yn ei bryd a'm gwin yn ei dymor; dygaf ymaith fy ngwlân a'm llin, a guddiai ei noethni.
Hosea 2:9 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am hynny y dychwelaf, a chymeraf fy ŷd yn ei amser, a’m gwin yn ei dymor; a dygaf ymaith fy ngwlân a’m llin a guddiai ei noethni hi.