Esther 7:4 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion
Esther 7:4 BNET (beibl.net 2015, 2024)
Dŷn ni wedi cael ein gwerthu i gael ein lladd a’n dinistrio’n llwyr! Petaen ni wedi cael ein gwerthu’n gaethweision a chaethferched fyddwn i wedi dweud dim. Fyddai trafferth felly ddim digon pwysig i boeni’r brenin amdano.”
Rhanna
Esther 7 BNETEsther 7:4 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oherwydd yr wyf fi a'm pobl wedi ein gwerthu i'n dinistrio a'n lladd a'n difa. Pe baem wedi ein gwerthu'n gaethweision ac yn gaethferched, ni ddywedwn i ddim; oherwydd ni fyddai ein trafferthion ni i'w cymharu â cholled y brenin.”
Rhanna
Esther 7 BCNDEsther 7:4 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys gwerthwyd ni, myfi a’m pobl, i’n dinistrio, i’n lladd, ac i’n difetha: ond pe gwerthasid ni yn gaethweision ac yn gaethforynion, mi a dawswn â sôn, er nad yw y gwrthwynebwr yn cystadlu colled y brenin.
Rhanna
Esther 7 BWM