Skip to content
Logo Ap Beibl

Esther 7:2 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion

Esther 7:2 BNET (beibl.net 2015, 2024)

am yr ail waith. Tra’n yfed gwin yn y wledd, dyma’r brenin yn gofyn i Esther, “Y Frenhines Esther. Gofynna am beth bynnag wyt ti eisiau, ac fe’i cei. Beth fyddet ti’n hoffi i mi ei wneud i ti? Gofyn am gymaint â hanner y deyrnas os wyt ti eisiau, a dyna gei di!”

Esther 7:2 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)

Ac ar yr ail ddiwrnod, tra oeddent yn yfed gwin, dywedodd y brenin unwaith eto wrth Esther, “Frenhines Esther, beth yw dy ddymuniad? Fe'i cei. Beth bynnag a geisi, hyd hanner fy nheyrnas, fe'i cei.”

Esther 7:2 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)

A dywedodd y brenin wrth Esther drachefn yr ail ddydd, wrth gyfeddach y gwin, Beth yw dy ddymuniad, Esther y frenhines? ac fe a roddir i ti; a pha beth yw dy ddeisyfiad? gofyn hyd yn hanner y deyrnas, ac fe a’i cwblheir.