Skip to content

Esther 6:4 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion

Esther 6:4 BNET (beibl.net 2015, 2024)

Y funud honno roedd Haman wedi cyrraedd y cyntedd tu allan i’r neuadd frenhinol, i awgrymu i’r brenin y dylai Mordecai gael ei grogi ar y crocbren oedd wedi’i adeiladu iddo. A dyma’r brenin yn gofyn, “Pwy sydd yn y cyntedd tu allan?”

Esther 6:4 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)

Gofynnodd y brenin, “Pwy sydd yn y cyntedd?” Yr oedd Haman newydd ddod i gyntedd allanol tŷ'r brenin i ddweud wrtho am grogi Mordecai ar y crocbren yr oedd wedi ei baratoi ar ei gyfer.

Esther 6:4 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)

A’r brenin a ddywedodd, Pwy sydd yn y cyntedd? A Haman a ddaethai i gyntedd nesaf allan tŷ y brenin, i ddywedyd wrth y brenin am grogi Mordecai ar y pren a baratoesai efe iddo.