Neidio i'r cynnwys

Esther 4:5 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion

Esther 4:5 BNET (beibl.net 2015, 2024)

Felly dyma Esther yn galw am Hathach, un o ystafellyddion y brenin oedd wedi’i benodi i ofalu amdani, a dweud wrtho am fynd i ddarganfod beth oedd yn bod ar Mordecai.

Esther 4:5 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)

Yna galwodd Esther ar Hathach, un o eunuchiaid y brenin a ddewiswyd i weini arni, a'i orchymyn i fynd at Mordecai, i gael gwybod beth oedd ystyr hyn a pham y digwyddodd.

Esther 4:5 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)

Am hynny Esther a alwodd ar Hathach, un o ystafellyddion y brenin, yr hwn a osodasai efe i wasanaethu o’i blaen hi; a hi a orchmynnodd iddo am Mordecai, fynnu gwybod pa beth oedd hyn, ac am ba beth yr ydoedd hyn.