Skip to content
Logo Ap Beibl

Esther 3:4 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion

Esther 3:4 BNET (beibl.net 2015, 2024)

Er eu bod nhw wedi siarad ag e am y peth dro ar ôl tro, doedd e ddim yn fodlon gwrando. Ond roedd e wedi esbonio iddyn nhw ei fod e’n Iddew. Felly dyma’r swyddogion yn mynd i siarad am y peth gyda Haman, i weld os byddai safiad Mordecai’n cael ei ganiatáu.

Esther 3:4 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)

Ond er eu bod yn gofyn hyn iddo'n feunyddiol, ni wrandawai arnynt. Felly dywedasant wrth Haman, er mwyn gweld a fyddai Mordecai'n dal ei dir, oherwydd yr oedd wedi dweud wrthynt ei fod yn Iddew.

Esther 3:4 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)

Ac er eu bod hwy beunydd yn dywedyd wrtho fel hyn, eto ni wrandawai efe arnynt hwy; am hynny y mynegasant i Haman, i edrych a safai geiriau Mordecai: canys efe a fynegasai iddynt mai Iddew ydoedd efe.