Esther 2:9 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion
Esther 2:9 BNET (beibl.net 2015, 2024)
Gwnaeth Esther argraff ar Hegai o’r dechrau. Roedd e’n ei hoffi’n fawr, ac aeth ati ar unwaith i roi coluron iddi a bwyd arbennig, a rhoddodd saith morwyn wedi’u dewis o balas y brenin iddi. Yna rhoddodd yr ystafelloedd gorau yn llety’r harîm iddi hi a’i morynion.
Esther 2:9 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd y ferch yn dderbyniol yn ei olwg, a chafodd ffafr ganddo. Trefnodd iddi gael ar unwaith ei hoffer coluro a'i dogn bwyd, a rhoddodd iddi saith o forynion golygus o dŷ'r brenin, a'i symud hi a'i morynion i le gwell yn nhŷ'r gwragedd.
Esther 2:9 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A’r llances oedd deg yn ei olwg ef, a hi a gafodd ffafr ganddo; am hynny efe ar frys a barodd roddi iddi bethau i’w glanhau, a’i rhannau, a rhoddi iddi saith o lancesau golygus, o dŷ y brenin: ac efe a’i symudodd hi a’i llancesau i’r fan orau yn nhŷ y gwragedd.