Neidio i'r cynnwys

Actau 9:8 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion

Actau 9:8 BNET (beibl.net 2015, 2024)

Cododd Saul ar ei draed, ond pan agorodd ei lygaid, doedd e ddim yn gallu gweld. Felly dyma nhw’n gafael yn ei law ac yn ei arwain i mewn i dre Damascus.

Actau 9:8 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)

Cododd Saul oddi ar lawr, ond er bod ei lygaid yn agored ni allai weld dim. Arweiniasant ef gerfydd ei law i mewn i Ddamascus.

Actau 9:8 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)

A Saul a gyfododd oddi ar y ddaear; a phan agorwyd ei lygaid, ni welai efe neb: eithr hwy a’i tywysasant ef erbyn ei law, ac a’i dygasant ef i mewn i Ddamascus.