Actau 7:8 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion
Actau 7:8 BNET (beibl.net 2015, 2024)
Dyna pryd wnaeth Duw ddweud wrth Abraham mai defod enwaediad oedd i fod yn arwydd o’r ymrwymiad yma. Felly pan gafodd Abraham fab, sef Isaac, dyma fe’n enwaedu y plentyn yn wyth diwrnod oed. Yna Isaac oedd tad Jacob, a Jacob oedd tad y deuddeg patriarch roddodd eu henwau i ddeuddeg llwyth Israel.
Rhanna
Actau 7 BNETActau 7:8 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A rhoddodd iddo gyfamod enwaediad. Felly, wedi geni iddo Isaac, enwaedodd arno yr wythfed dydd. Ac i Isaac ganwyd Jacob, ac i Jacob y deuddeg patriarch.”
Rhanna
Actau 7 BCNDActau 7:8 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a roddes iddo gyfamod yr enwaediad. Felly Abraham a genhedlodd Isaac, ac a enwaedodd arno yr wythfed dydd: ac Isaac a genhedlodd Jacob; a Jacob a genhedlodd y deuddeg patriarch.
Rhanna
Actau 7 BWM