Skip to content
Logo Ap Beibl

Actau 7:38 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion

Actau 7:38 BNET (beibl.net 2015, 2024)

Roedd yn arwain y bobl pan oedden nhw gyda’i gilydd yn yr anialwch. Gyda Moses y siaradodd yr angel ar Fynydd Sinai. Derbyniodd neges fywiol i’w phasio ymlaen i ni.

Actau 7:38 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)

Hwn yw'r un a fu yn y gynulleidfa yn yr anialwch, gyda'r angel a lefarodd wrtho ar Fynydd Sinai a chyda'n hynafiaid ni. Derbyniodd ef oraclau byw i'w rhoi i chwi.

Actau 7:38 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)

Hwn yw efe a fu yn yr eglwys yn y diffeithwch, gyda’r angel a ymddiddanodd ag ef ym mynydd Seina, ac â’n tadau ni; yr hwn a dderbyniodd ymadroddion bywiol i’w rhoddi i ni.