Skip to content
Logo Ap Beibl

Actau 6:5 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion

Actau 6:5 BNET (beibl.net 2015, 2024)

Roedd y syniad yma’n plesio pawb, a dyma nhw’n dewis y rhain: Steffan (dyn oedd yn credu’n gryf ac yn llawn o’r Ysbryd Glân), a Philip, Procorws, Nicanor, Timon, Parmenas, a Nicolas o Antiochia (oedd ddim yn Iddew, ond wedi troi at y grefydd Iddewig, a bellach yn dilyn y Meseia).

Actau 6:5 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)

A bu eu geiriau yn gymeradwy gan yr holl gynulleidfa, a dyma ddewis Steffan, gŵr llawn o ffydd ac o'r Ysbryd Glân, a Philip a Prochorus a Nicanor a Timon a Parmenas a Nicolaus, proselyt o Antiochia.

Actau 6:5 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)

A bodlon fu’r ymadrodd gan yr holl liaws: a hwy a etholasant Steffan, gŵr llawn o ffydd ac o’r Ysbryd Glân, a Philip, a Phrochorus, a Nicanor, a Thimon, a Pharmenas, a Nicolas, proselyt o Antiochia