Skip to content
Logo Ap Beibl

Actau 5:36 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion

Actau 5:36 BNET (beibl.net 2015, 2024)

Ydych chi’n cofio Theudas? Cododd hwnnw beth amser yn ôl, yn honni ei fod yn arweinydd mawr. Roedd tua pedwar cant o ddynion yn ei ddilyn, ond cafodd ei ladd a chafodd ei ddilynwyr eu gwasgaru. Wnaeth dim byd ddod o’r peth.

Actau 5:36 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)

Oherwydd dro'n ôl cododd Theudas, gan honni ei fod yn rhywun, ac ymunodd nifer o ddynion ag ef, ynghylch pedwar cant. Lladdwyd ef, a chwalwyd pawb oedd yn ei ganlyn, ac aethant yn ddim.

Actau 5:36 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)

Canys o flaen y dyddiau hyn cyfododd Theudas i fyny, gan ddywedyd ei fod ef yn rhyw un; wrth yr hwn y glynodd rhifedi o wŷr, ynghylch pedwar cant: yr hwn a laddwyd, a chynifer oll a ufuddhasant iddo a wasgarwyd, ac a wnaed yn ddiddim.