Skip to content
Logo Ap Beibl

Actau 3:11 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion

Actau 3:11 BNET (beibl.net 2015, 2024)

Dyna lle roedd y cardotyn a’i freichiau am Pedr ac Ioan, a dyma’r bobl yn tyrru i mewn i Gyntedd Colofnog Solomon lle roedden nhw.

Actau 3:11 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)

Tra oedd ef yn gafael yn Pedr ac Ioan, rhedodd yr holl bobl ynghyd atynt i'r fan a elwir yn Gloestr Solomon, wedi eu syfrdanu.

Actau 3:11 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)

Ac fel yr oedd y cloff a iachasid yn atal Pedr ac Ioan, yr holl bobl yn frawychus a gydredodd atynt i’r porth a elwir Porth Solomon.