Skip to content
Logo Ap Beibl

Actau 26:26 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion

Actau 26:26 BNET (beibl.net 2015, 2024)

Mae’r Brenin Agripa yn deall y pethau yma, a dw i’n gallu siarad yn blaen gydag e. Dw i’n reit siŵr ei fod wedi clywed am hyn i gyd, achos wnaeth y cwbl ddim digwydd mewn rhyw gornel dywyll o’r golwg.

Actau 26:26 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)

Oherwydd fe ŵyr y brenin am y pethau hyn, ac yr wyf yn llefaru yn hy wrtho. Ni allaf gredu fod dim un o'r pethau hyn yn anhysbys iddo, oherwydd nid mewn rhyw gongl y gwnaed hyn.

Actau 26:26 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)

Canys y brenin a ŵyr oddi wrth y pethau hyn, wrth yr hwn yr wyf fi yn llefaru yn hy: oherwydd nid wyf yn tybied fod dim o’r pethau hyn yn guddiedig rhagddo; oblegid nid mewn congl y gwnaed hyn.