Skip to content
Logo Ap Beibl

Actau 26:13 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion

Actau 26:13 BNET (beibl.net 2015, 2024)

Roedd hi tua chanol dydd pan oeddwn i ar fy ffordd yno. Yna’n sydyn, eich mawrhydi, dyma olau o’r awyr yn disgleirio o’m cwmpas i a phawb oedd gyda mi. Roedd yn olau llawer mwy tanbaid na’r haul.

Actau 26:13 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)

gwelais ar y ffordd ganol dydd, O frenin, oleuni mwy llachar na'r haul yn llewyrchu o'r nef o'm hamgylch i a'r rhai oedd yn teithio gyda mi.

Actau 26:13 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)

Ar hanner dydd, O frenin, ar y ffordd, y gwelais oleuni o’r nef, mwy na disgleirdeb yr haul, yn disgleirio o’m hamgylch, a’r rhai oedd yn ymdaith gyda mi.