Actau 25:23 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion
Actau 25:23 BNET (beibl.net 2015, 2024)
Felly, y diwrnod wedyn dyma’r Brenin Herod Agripa a Bernice yn cyrraedd y neuadd lle roedd y gwrandawiad i’w gynnal. Roedd yn achlysur crand iawn, gyda phenaethiaid y fyddin a phobl bwysig y ddinas i gyd yno. Dyma Ffestus yn gorchymyn dod â Paul i mewn.
Actau 25:23 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Trannoeth, felly, daeth Agripa a Bernice, yn fawr eu rhwysg, a mynd i mewn i'r llys ynghyd â chapteiniaid a gwŷr amlwg y ddinas; ac ar orchymyn Ffestus, daethpwyd â Paul gerbron.
Actau 25:23 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Trannoeth gan hynny, wedi dyfod Agripa a Bernice, â rhwysg fawr, a myned i mewn i’r orsedd, â’r pen-capteiniaid a phendefigion y ddinas, wrth orchymyn Ffestus fe a ddygwyd Paul gerbron.