Actau 25:13 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion
Actau 25:13 BNET (beibl.net 2015, 2024)
Ychydig ddyddiau wedyn daeth y Brenin Herod Agripa i Cesarea gyda’i chwaer Bernice, i ddymuno’n dda i Ffestus ar ei apwyntiad yn Llywodraethwr.
Actau 25:13 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ymhen rhai dyddiau daeth y Brenin Agripa a Bernice i lawr i Gesarea i groesawu Ffestus.
Actau 25:13 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wedi talm o ddyddiau, Agripa y brenin a Bernice a ddaethant i Cesarea i gyfarch Ffestus.