Skip to content
Logo Ap Beibl

Actau 23:6 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion

Actau 23:6 BNET (beibl.net 2015, 2024)

Roedd Paul yn gwybod yn iawn fod rhai ohonyn nhw’n Sadwceaid ac eraill yn Phariseaid, felly galwodd allan yng nghanol y Sanhedrin, “Frodyr, Pharisead ydw i, a dyna oedd fy nghyndadau. Dw i yma ar brawf am fy mod i’n credu fod y meirw’n mynd i ddod yn ôl yn fyw.”

Actau 23:6 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)

Sylweddolodd Paul fod y naill ran yn Sadwceaid, a'r llall yn Phariseaid, a dechreuodd lefaru'n uchel yn y Sanhedrin: “Frodyr, Pharisead wyf fi, a mab i Pharisead. Ynghylch gobaith am atgyfodiad y meirw yr wyf ar fy mhrawf.”

Actau 23:6 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)

A phan wybu Paul fod y naill ran o’r Sadwceaid, a’r llall o’r Phariseaid, efe a lefodd yn y cyngor, Ha wŷr frodyr, Pharisead wyf fi, mab i Pharisead: am obaith ac atgyfodiad y meirw yr ydys yn fy marnu i.