Skip to content
Logo Ap Beibl

Actau 23:3 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion

Actau 23:3 BNET (beibl.net 2015, 2024)

Dyma Paul yn ymateb drwy ddweud, “Bydd Duw yn dy daro di, y rhagrithiwr! Sut alli di eistedd yna yn fy marnu i ar sail Cyfraith Moses, tra’n torri’r un Gyfraith drwy orchymyn fy nharo i!”

Actau 23:3 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)

Yna dywedodd Paul wrtho, “Y mae Duw yn mynd i'th daro di, tydi bared gwyngalchog. A wyt ti'n eistedd i'm barnu i yn ôl y Gyfraith, ac yna'n torri'r Gyfraith trwy orchymyn fy nharo?”

Actau 23:3 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)

Yna y dywedodd Paul wrtho, Duw a’th dery di, bared wedi ei wyngalchu: canys a ydwyt ti yn eistedd i’m barnu i yn ôl y ddeddf, a chan droseddu’r ddeddf yn peri fy nharo i?