Skip to content
Logo Ap Beibl

Actau 2:2-3 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion

Actau 2:2-3 BNET (beibl.net 2015, 2024)

Ac yn sydyn dyma nhw’n clywed sŵn o’r awyr, fel gwynt cryf yn chwythu drwy’r ystafell lle roedden nhw’n cyfarfod. Ac wedyn roedd fel petai rhywbeth tebyg i fflamau tân yn dod i lawr ac yn gorffwys ar ben pob un ohonyn nhw.

Actau 2:2-3 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)

ac yn sydyn fe ddaeth o'r nef sŵn fel gwynt grymus yn rhuthro, ac fe lanwodd yr holl dŷ lle'r oeddent yn eistedd. Ymddangosodd iddynt dafodau fel o dân yn ymrannu ac yn eistedd un ar bob un ohonynt

Actau 2:2-3 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)

Ac yn ddisymwth y daeth sŵn o’r nef, megis gwynt nerthol yn rhuthro, ac a lanwodd yr holl dŷ lle yr oeddynt yn eistedd. Ac ymddangosodd iddynt dafodau gwahanedig megis o dân, ac efe a eisteddodd ar bob un ohonynt.