Actau 19:9 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion
Actau 19:9 BNET (beibl.net 2015, 2024)
Ond dyma rhai ohonyn nhw’n troi’n ystyfnig – yn lle credu roedden nhw’n dechrau siarad yn erbyn Ffordd yr Arglwydd Iesu o flaen pawb. Felly dyma Paul yn eu gadael nhw, a mynd â’r credinwyr eraill gydag e. Roedden nhw’n cyfarfod bob dydd yn narlithfa Tyranus i wrando ar Paul yn dysgu.
Actau 19:9 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond gan fod rhai yn ymgaledu ac yn gwrthod credu, ac yn difenwi'r Ffordd yng ngŵydd y gynulleidfa, ymneilltuodd oddi wrthynt gan gymryd ei ddisgyblion oddi yno, a pharhau i ymresymu bob dydd yn narlithfa Tyranus.
Actau 19:9 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr pan oedd rhai wedi caledu, ac heb gredu, gan ddywedyd yn ddrwg am y ffordd honno gerbron y lliaws, efe a dynnodd ymaith oddi wrthynt, ac a neilltuodd y disgyblion; gan ymresymu beunydd yn ysgol un Tyrannus.