Actau 18:5 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion
Actau 18:5 BNET (beibl.net 2015, 2024)
Ar ôl i Silas a Timotheus gyrraedd o Macedonia dyma Paul yn mynd ati i bregethu’n llawn amser, a dangos yn glir i’r Iddewon mai Iesu oedd y Meseia.
Rhanna
Actau 18 BNETActau 18:5 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan ddaeth Silas a Timotheus i lawr o Facedonia, dechreuodd Paul ymroi yn llwyr i bregethu'r gair, gan dystiolaethu wrth yr Iddewon mai Iesu oedd y Meseia.
Rhanna
Actau 18 BCNDActau 18:5 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan ddaeth Silas a Thimotheus o Facedonia, bu gyfyng ar Paul yn yr ysbryd, ac efe a dystiolaethodd i’r Iddewon, mai Iesu oedd Crist.
Rhanna
Actau 18 BWM