Actau 17:16 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion
Actau 17:16 BNET (beibl.net 2015, 2024)
Tra oedd Paul yn disgwyl amdanyn nhw yn Athen, roedd wedi cynhyrfu’n lân wrth weld cymaint o eilunod oedd yn y ddinas.
Actau 17:16 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Tra oedd Paul yn eu disgwyl yn Athen, cythruddwyd ei ysbryd ynddo wrth weld y ddinas yn llawn eilunod.
Actau 17:16 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A thra ydoedd Paul yn aros amdanynt yn Athen, ei ysbryd a gynhyrfwyd ynddo, wrth weled y ddinas wedi ymroi i eilunod.