Actau 16:13 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion
Actau 16:13 BNET (beibl.net 2015, 2024)
Ar y dydd Saboth dyma ni’n mynd allan o’r ddinas at lan yr afon, lle roedden ni’n deall fod pobl yn cyfarfod i weddïo. Dyma ni’n eistedd i lawr a dechrau siarad â’r gwragedd oedd wedi dod at ei gilydd yno.
Actau 16:13 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ar y dydd Saboth aethom y tu allan i'r porth at lan afon, gan dybio fod yno le gweddi. Wedi eistedd, dechreusom lefaru wrth y gwragedd oedd wedi dod ynghyd.
Actau 16:13 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac ar y dydd Saboth ni a aethom allan o’r ddinas i lan afon, lle y byddid arferol o weddïo; ac ni a eisteddasom, ac a lefarasom wrth y gwragedd a ddaethant ynghyd.