Neidio i'r cynnwys

Actau 15:4 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion

Actau 15:4 BNET (beibl.net 2015, 2024)

Pan gyrhaeddon nhw Jerwsalem cawson nhw groeso mawr gan yr eglwys a gan yr apostolion a’r arweinwyr eraill yno. A dyma nhw’n adrodd hanes y cwbl roedd Duw wedi’i wneud drwyddyn nhw.

Actau 15:4 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)

Wedi iddynt gyrraedd Jerwsalem, fe'u derbyniwyd gan yr eglwys a'r apostolion a'r henuriaid, a mynegasant gymaint yr oedd Duw wedi ei wneud trwyddynt hwy.

Actau 15:4 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)

Ac wedi eu dyfod hwy i Jerwsalem hwy a dderbyniwyd gan yr eglwys, a chan yr apostolion, a chan yr henuriaid; a hwy a fynegasant yr holl bethau a wnaethai Duw gyda hwynt.