Actau 13:46 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion
Actau 13:46 BNET (beibl.net 2015, 2024)
Ond roedd ateb Paul a Barnabas yn ddi-flewyn-ar-dafod: “Roedd rhaid i ni gyhoeddi neges Duw i chi gyntaf. Ond gan eich bod chi’n gwrthod gwrando, ac felly’n barnu eich hunain yn anaddas i gael bywyd tragwyddol, awn ni at bobl y cenhedloedd eraill.
Actau 13:46 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna llefarodd Paul a Barnabas yn hy: “I chwi,” meddent, “yr oedd yn rhaid llefaru gair Duw yn gyntaf. Ond gan eich bod yn ei wrthod, ac yn eich dyfarnu eich hunain yn annheilwng o'r bywyd tragwyddol, dyma ni'n troi at y Cenhedloedd.
Actau 13:46 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna Paul a Barnabas a aethant yn hy, ac a ddywedasant, Rhaid oedd llefaru gair Duw wrthych chwi yn gyntaf: eithr oherwydd eich bod yn ei wrthod, ac yn eich barnu eich hunain yn annheilwng o fywyd tragwyddol, wele, yr ydym yn troi at y Cenhedloedd.