Neidio i'r cynnwys

Actau 13:24 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion

Actau 13:24 BNET (beibl.net 2015, 2024)

Roedd Ioan Fedyddiwr wedi bod yn pregethu i bobl Israel cyn i Iesu ddod, ac yn galw arnyn nhw i droi cefn ar bechod a chael eu bedyddio.

Actau 13:24 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)

Yr oedd Ioan eisoes, cyn iddo ef ddod, wedi cyhoeddi bedydd edifeirwch i holl bobl Israel.

Actau 13:24 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)

Gwedi i Ioan ragbregethu o flaen ei ddyfodiad ef i mewn, fedydd edifeirwch i holl bobl Israel.