Actau 12:17 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion
Actau 12:17 BNET (beibl.net 2015, 2024)
Dyma Pedr yn rhoi arwydd iddyn nhw dawelu, ac esboniodd iddyn nhw sut roedd yr Arglwydd wedi’i ryddhau o’r carchar. “Ewch i ddweud beth sydd wedi digwydd wrth Iago a’r credinwyr eraill,” meddai, ac wedyn aeth i ffwrdd i rywle arall.
Actau 12:17 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Amneidiodd yntau arnynt â'i law i fod yn ddistaw, ac adroddodd wrthynt sut yr oedd yr Arglwydd wedi dod ag ef allan o'r carchar. Dywedodd hefyd, “Mynegwch hyn i Iago a'r brodyr.” Yna ymadawodd, ac aeth ymaith i le arall.
Actau 12:17 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a amneidiodd arnynt â llaw i dewi, ac a adroddodd iddynt pa wedd y dygasai’r Arglwydd ef allan o’r carchar: ac efe a ddywedodd, Mynegwch y pethau hyn i Iago, ac i’r brodyr. Ac efe a ymadawodd, ac a aeth i le arall.