Neidio i'r cynnwys

Actau 11:28 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion

Actau 11:28 BNET (beibl.net 2015, 2024)

Yn un o’r cyfarfodydd, dyma un ohonyn nhw (dyn o’r enw Agabus) yn sefyll ar ei draed, ac yn proffwydo dan ddylanwad yr Ysbryd Glân fod newyn trwm yn mynd i ledu drwy’r byd Rhufeinig i gyd. (Digwyddodd y newyn hwnnw yn ystod teyrnasiad Clawdiws.)

Actau 11:28 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)

a chododd un ohonynt, o'r enw Agabus, a rhoi arwydd trwy'r Ysbryd fod newyn mawr ar ddod dros yr holl fyd; ac felly y bu yn amser Clawdius.

Actau 11:28 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)

Ac un ohonynt, a’i enw Agabus, a gyfododd, ac a arwyddocaodd trwy yr Ysbryd, y byddai newyn mawr dros yr holl fyd: yr hwn hefyd a fu dan Claudius Cesar.