Actau 10:28 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion
Actau 10:28 BNET (beibl.net 2015, 2024)
A dyma ddwedodd wrthyn nhw: “Dych chi’n gwybod fod ein Cyfraith ni’r Iddewon ddim yn caniatáu i ni gymysgu gyda phobl o genhedloedd eraill. Ond mae Duw wedi dangos i mi fod gen i ddim hawl i ystyried unrhyw un yn aflan.
Actau 10:28 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
ac meddai wrthynt, “Fe wyddoch chwi ei bod yn anghyfreithlon i Iddew gadw cwmni gydag estron neu ymweld ag ef; eto dangosodd Duw i mi na ddylwn alw neb yn halogedig neu'n aflan.
Actau 10:28 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a ddywedodd wrthynt, Chwi a wyddoch mai anghyfreithlon yw i ŵr o Iddew ymwasgu neu ddyfod at alltud: eithr Duw a ddangosodd i mi na alwn neb yn gyffredin neu yn aflan.