2 Thesaloniaid 3:4 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion
2 Thesaloniaid 3:4 BNET (beibl.net 2015, 2024)
Ac mae’r Arglwydd yn ein gwneud ni’n hyderus eich bod chi’n gwneud beth ddwedon ni wrthoch chi, ac y gwnewch chi ddal ati i wneud hynny.
2 Thesaloniaid 3:4 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y mae gennym hyder yn yr Arglwydd amdanoch, eich bod yn gwneud y pethau yr ydym yn eu gorchymyn, ac y byddwch yn dal i'w gwneud.
2 Thesaloniaid 3:4 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac y mae gennym hyder yn yr Arglwydd amdanoch, eich bod yn gwneuthur, ac y gwnewch, y pethau yr ydym yn eu gorchymyn i chwi.