Neidio i'r cynnwys

2 Samuel 5:2 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion

2 Samuel 5:2 BNET (beibl.net 2015, 2024)

Ar un adeg, pan oedd Saul yn frenin, ti oedd yn arwain byddin Israel i ryfel a dod â nhw yn ôl adre. Mae’r ARGLWYDD wedi dweud wrthot ti, ‘Ti sydd i ofalu am Israel, fy mhobl i. Ti fydd yn eu harwain nhw.’”

2 Samuel 5:2 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)

Gynt, pan oedd Saul yn frenin arnom, ti oedd yn arwain Israel allan i ryfel ac yn ôl wedyn; ac fe ddywedodd yr ARGLWYDD wrthyt, ‘Ti sydd i fugeilio fy mhobl Israel; ti sydd i fod yn dywysog Israel’.”

2 Samuel 5:2 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)

Cyn hyn hefyd, pan oedd Saul yn frenin arnom ni, ti oeddit yn arwain Israel allan, ac yn eu dwyn i mewn: a dywedodd yr ARGLWYDD wrthyt ti, Ti a borthi fy mhobl Israel, a thi a fyddi yn flaenor ar Israel.