Logo YouVersion
Ikona vyhledávání

Salmydd 8

8
SALM VIII.
8.7. D. Dusseldorf. Tanycastell.
1Mor ardderchog yw dy enw
Trwy’r holl ddaear, Arglwydd Iôr!
* Mae’th ogoniant ar y nefoedd
Fel rhyw annherfynol fôr;
2Plant yn suguo welant hwnw,
* A darperaist yn ei bryd
O’u geneuau nerth i daro
Pob annuwiaeth falch yn fud.
3Pan edrychwyf ar y nefoedd,
Gwaith dy fysedd Di, fy Ner;
Gweled yno’r lluoedd dysglaer
Drefnaist Ti, — y lloer a’r ser;
4Beth yw dyn i Ti, O! Arglwydd,
Pan y cofit un mor wael?
A mab dyn i’w anrhydeddu
Gyda’th ymweliadau hael?
* 5Ar gyffiniau dwyfol fawredd
Y gosodaist egwan ddyn;
A gogoniant ei coronaist
Ar dy ddelw hardd dy hun;
6-8Ti a ddarostyngaist iddo
Luoedd awyr, maes, a môr:
9Mor ardderchog yw dy enw
Trwy’r holl ddaear, Arglwydd Iôr!

Právě zvoleno:

Salmydd 8: SC1885

Zvýraznění

Sdílet

Kopírovat

None

Chceš mít své zvýrazněné verše uložené na všech zařízeních? Zaregistruj se nebo se přihlas