Zechariah 8
8
PEN. VIII.
1A bu gair Arglwydd y lluoedd#ataf. Syr. gan ddywedyd,
2Fel hyn y dywedodd Arglwydd y lluoedd,
Eiddigeddais dros Sïon ag eiddigedd mawr:
Ac â llid mawr yr eiddigeddais drosti.
3Fel hyn y dywedodd yr Arglwydd;
Dychwelais#dychwelaf. LXX. daethum i drigo. wyf wrth fy modd yn. Syr. at Sïon;
A thrigaf yn nghanol Jerusalem:
A gelwir Jerusalem Dinas y gwirionedd;
A mynydd Arglwydd y lluoedd y mynydd Santaidd.
4Fel hyn y dywedodd Arglwydd y lluoedd;
Hen wŷr a hen wragedd a drigant#eisteddant. LXX. eto;
Yn heolydd Jerusalem:
A bydd gŵr a’i ffon#a ffon gŵr yn ei law. Vulg. yn ei law gan amlder dyddiau.
5A heolydd y ddinas a lenwir;
O fechgyn a genethod:
Yn chwareu#yn chwerthin. yn ei heolydd hi.
6Fel hyn y dywedodd Arglwydd y lluoedd;
Os anhawdd#rhyfedd. anmhosibl. LXX. fyddai yn ngolwg gweddill y bobl hyn;
Yn y dyddiau hyny:
Ai anhawdd fyddai hefyd yn fy ngolwg I;
Medd Arglwydd y lluoedd.
7Fel hyn y dywedodd Arglwydd y lluoedd;
Wele fi yn gwaredu fy mhobl o dir y dwyrain:
Ac o dir machludiad haul.
8A mi a’u dygaf hwynt;
A hwy a breswyliant#gwnaf iddynt babellu neu drigo. LXX. yn nghanol Jerusalem:
A byddant i mi yn bobl,
A minau a fyddaf iddynt hwy yn Dduw;
Mewn gwirionedd ac mewn uniondeb.
9Fel hyn y dywedodd Arglwydd y lluoedd,
Cryfhaer eich dwylaw chwi;
Y rhai a glywwch yn y dyddiau hyn y geiriau hyn:
O enau y proffwydi;
Y rhai oeddent yn y#o’r dydd y seiliwyd. LXX. dydd y sylfaenwyd tŷ Arglwydd y lluoedd,
I adeiladu y deml.#ac oddiar yr adeiladwyd y deml. LXX.
10Canys cyn y dyddiau hyny;
Cyflog i ddyn ni byddai;#cyflog dynion ni byddai yn enill. LXX.
A gwerth#pris, tâl. ar yr anifail nid oedd mohono:
Ac i’r neb a elai ac i’r neb a ddeuai,
Nid oedd heddwch#llonyddwch, diogelwch. gan y cyfyngder;
A mi a yrais#yrwn yr holl ddynion bob un yn erbyn ei. LXX. bob dyn un yn erbyn ei gymydog.#gyfaill. Syr.
11Ac yn awr,
Nid fel yn y dyddiau gynt y byddaf fi;#yr wyf yn gwneuthur. LXX. y gwnaf. Vulg.
I weddill y bobl hyn:
Medd Arglwydd y lluoedd.
12Canys had a fydd ffynianus,#diogel. atdâl. ond yn hytrach dangosaf heddwch. LXX. had heddwch fydd. Vulg. had mewn ffyniant. Syr.
Y winwydden a rydd ei ffrwyth,
A’r ddaear a rydd ei chynyrch;
A’r wybrenau a roddant eu gwlith:
A gwnaf i weddill y bobl yma feddianu yr holl bethau hyn.
13A bydd megys y buoch yn#mewn m. LXX. felldith yn mysg y cenedloedd,
Tŷ Judah a thŷ Israel;
Felly y gwaredaf chwi;
A byddwch yn#mewn bendith. LXX. fendith:
Nac ofnwch, cryfhaer#byddwch gryfion eich. LXX. eich dwylaw.
14Canys fel hyn y dywedodd Arglwydd y lluoedd,
Fel y meddyliais eich drygu chwi,
Pan y digiodd eich tadau fyfi;
Medd Arglwydd y lluoedd:
Ac nid edifarheais.#ni thosturiais. Vulg.
15Felly y meddyliais drachefn#felly yr ordeiniais ac y. LXX. felly y troais ac y. Syr. yn y dyddiau hyn;
I wneuthur daioni i Jerusalem a thŷ Judah:
Nac#ymwrolwch. LXX. ofnwch.
16Dyma y pethau#y geiriau. LXX. a wnewch:
Dywedwch wir bob un wrth ei gymydog;
Gwirionedd a barn berffaith;#gyflawn. heddychlon. LXX. heddwch. Vulg. a gwirionedd a barn a heddwch bernwch yn. Syr.
Bernwch yn eich pyrth.
17A drwg un i’r llall,
Na feddyliwch yn eich calon;
A llw celwyddog na hoffwch:
Canys yr holl bethau hyn ydynt yn rhai a gasheais,
Medd yr Arglwydd.
18A bu gair Arglwydd y lluoedd#Hollalluog. LXX. ataf gan ddywedyd,
19Fel hyn y dywedodd Arglwydd y lluoedd,
Ympryd y pedwerydd#y pedwerydd ympryd, y pumed ymp., a’r degfed ymp. LXX. ac ympryd y pumed ac ympryd y degfed,
A fydd i dŷ Judah yn llawenydd a gorfoledd:
Ac yn wyliau#yn gyfarfodydd. daionus:#enwog neu odidog. Vulg.
A’r#a chwi a lawenhewch ac a gerwch y gwiri. LXX. gwirionedd a heddwch cerwch.#yn unig cerwch wir. Vulg.
20Fel hyn y dywedodd Arglwydd y lluoedd:
Bydd eto y daw pobloedd;#pobloedd lawer. LXX.
A phreswylwyr#ac y preswylient ddim. Vulg. dinasoedd lawer:
21Ac yr â preswylwyr#pum dinas i un. LXX. a myned o’r preswylwyr un at arall gan. Vulg. un i’r llall,
Gan ddywedyd,
Awn gan fyned#deuwch, awn, ac ymgrymwn gerbron yr—a gweddiwn gan. Syr. awn i weddïo am. LXX. awn a gweddïwn am. Vulg. i weddïo am wyneb yr Arglwydd;
Ac i geisio#wyneb yr Arg. Hollalluog. LXX. a cheisiwn Argl. y. Vulg. Arglwydd y lluoedd:
Minau a af hefyd.
22A phobloedd lawer a chenedloedd cryfion#lluosog. a ddeuant;
I geisio Arglwydd y lluoedd yn Jerusalem:
Ac i weddïo#dyhuddo neu wneuthur yn foddus. LXX. am wyneb yr Arglwydd.
23Fel hyn y dywedodd Arglwydd y lluoedd,
Yn y dyddiau hyny;
Yr ymaflant ddeg o ddynion;
O holl ieithoedd y cenedloedd:
Ië, ymaflant yn ngodreu#cwr, yml gwisg. gŵr o Iuddew gan ddywedyd,
Awn gyda chwi;#gyda thi. LXX, Syr.
Canys clywsom fod Duw gyda chwi.
Právě zvoleno:
Zechariah 8: PBJD
Zvýraznění
Sdílet
Kopírovat

Chceš mít své zvýrazněné verše uložené na všech zařízeních? Zaregistruj se nebo se přihlas
Proffwydi Byrion gan John Davies, 1881.
Cafodd y testun ei ddigideiddio gan Gymdeithas y Beibl yn 2022.

: