Logo YouVersion
Ikona vyhledávání

Zechariah 10

10
PEN. X.—
1Erchwch gan yr Arglwydd wlaw yn amser#yn ei dymor, cynar a diweddar wlaw. LXX. diweddar wlaw;
Gwna yr Arglwydd fellt;#eira. Vulg. defnynau. Syr.
Ac a rydd iddynt wlaw yn gawod;
I bob un#i ddyn. i bob glaswelltyn. fel y tyfo gwellt yn. Syr. laswellt yn y maes.
2Canys y delwau teulu#y rhai a ddaroganant. LXX. y rhai gwybodus. Syr. a lefarasant dwyll,#beth diles. Vulg. flinderau. LXX. anwiredd, wyrni. Syr.
A’r dewiniaid a welsant gelwydd;
A breuddwydion ofer a ddywedent:
Gwagedd a roddent yn gysur:#yn ofer y cysurasant. Vulg. Syr.
Am hyny y symudwyd#symudasant. criniwyd hwy. LXX. hwynt fel defaid;
Cystuddiwyd#drygwyd hwy. LXX. gostyngwyd. Syr. hwynt am nad oedd bugail.#iachad. LXX.
3Yn erbyn y bugeiliaid yr enynodd fy llid;
Ac â’r bychod#wyn. LXX. praidd. Syr. yr ymwelaf:
Canys ymwelodd#ymwel. gesyd. LXX. Arglwydd y lluoedd â’i ddeadell tŷ Judah;
Ac a’u gosododd hwynt,
Fel ei harddfarch#march ei ogoniant. Vulg. yn y rhyfel.
4O hono#o honynt. Syr. yr â allan gonglfaen,#oddiwrtho yr edrychodd. LXX.
O hono hoel;#y gosododd. LXX.
O hono fwa rhyfel:#mewn rhyfel. LXX. Syr.
O hono bob meistr#gorfodwr. LXX. trethwr. Vulg. eu holl lywodraethwyr. Syr. yn nghyd.
5A byddant fel cedyrn yn sathru,
Yn nhom#yn sathru tom yn yr he. Syr. heolydd yn y rhyfel;
Ac ymladdant;
Canys bydd yr Arglwydd gyda hwynt:
A chywilyddiant#cywilyddir. LXX. Syr. farchogion meirch.
6A nerthaf dŷ Judah,
A thŷ Joseph a waredaf;
A gwnaf iddynt breswylio,#tyaf hwynt. LXX. dychwelaf. Vulg. Syr.
Canys tosturiais#cerais. LXX. wrthynt;
A byddant fel pe nas gwrthodaswn hwynt:
Canys myfi yw yr Arglwydd eu Duw hwynt#myfi yr—yw eu. myfi yr Arg. Dd. a’u gwrandawaf. Syr.
Ac a’u gwrandawaf hwynt.
7A bydd Ephraim fel cadarn;#a byddant fel ymladdwyr Ephr. LXX. fel cedyrn Ephr. Vulg.
A’u calon a lawenycha fel trwy win:
A’u meibion a welant ac a lawenychant;
Eu calon a orfoledda yn yr Arglwydd.
8Chwibanaf#rhoddaf arwydd iddynt. LXX. arnynt a chasglaf#derbyniaf. LXX. hwynt,
Canys gwaredais#gwaredaf. LXX. hwynt:
Ac amlhant#amlhaf hwynt. Vulg. fel yr amlhasant.
9A heuais#hauaf. LXX. Vulg. Syr. hwynt yn mysg y bobloedd;
Ac yn y gwledydd pell#a’r pellenigion a’m. LXX. ac o bell y’m. Vulg. ym clodforant. Syr. y’m cofiant:
A bydd byw#magant eu. LXX. Syr. byddant byw gyda eu. Vulg. eu meibion ac a ddychwelant.
10A dychwelaf hwynt o wlad yr Aipht;#Mitsraim. Hebr.
Ac o Ashur y casglaf#derbyniaf. LXX. hwynt:
Ac i wlad Gilead a Lebanon y dygaf hwynt;
Ac ni cheir lle#ac ni adewir o honynt un. LXX. iddynt.
11Ac efe a dramwya#ant trwodd. LXX. trwy y môr blin,#cyfyng. LXX.
Ac a dery#tarawant. LXX. dry. Syr. dònau yn y môr;
A sychir#cywilyddir. Vulg. gywilyddiant. Syr. holl waelodion afon:#afonydd. LXX.
A disgynir#cymerir ymaith. LXX. a baid. Syr. balchder Ashur;
A gwialen#arglwyddiaeth yr. Syr. yr Aipht a ymedy.
12A nerthaf hwynt yn yr Arglwydd;#yr Argl. eu Duw. LXX.
Ac yn ei enw ef y rhodiant:#yr ymffrostiant. LXX. am ei—y meddyliant. Syr.
Medd yr Arglwydd.

Právě zvoleno:

Zechariah 10: PBJD

Zvýraznění

Sdílet

Kopírovat

None

Chceš mít své zvýrazněné verše uložené na všech zařízeních? Zaregistruj se nebo se přihlas