Eseia 48:17-18
Eseia 48:17-18 BNET
Dyma mae’r ARGLWYDD sy’n dy ollwng yn rhydd yn ei ddweud – Un Sanctaidd Israel: “Fi ydy’r ARGLWYDD dy Dduw, sy’n dy ddysgu di er dy les, ac yn dy arwain di ar hyd y ffordd y dylet ti fynd. O na fyddet ti wedi gwrando ar fy ngorchmynion! Byddai dy heddwch yn llifo fel afon, a dy gyfiawnder fel tonnau’r môr.

