Eseia 41:19-20
Eseia 41:19-20 BNET
Bydda i’n plannu coed cedrwydd yno, coed acasia, myrtwydd, ac olewydd; bydda i’n gosod coed cypres, coed llwyfen a choed pinwydd hefyd – er mwyn i bobl weld a gwybod, ystyried a sylweddoli mai’r ARGLWYDD sydd wedi gwneud hyn, ac mai Un Sanctaidd Israel sydd wedi peri iddo ddigwydd.



