Logo YouVersion
Ikona vyhledávání

Eseciel 37:7-8

Eseciel 37:7-8 BNET

Felly, dyma fi’n proffwydo fel roedd Duw wedi dweud wrtho i. Ac wrth i mi wneud hynny dyma fi’n clywed sŵn ratlo, a dyma’r esgyrn yn dod at ei gilydd, pob un yn ôl i’w le. Wrth i mi edrych dyma fi’n gweld gewynnau a chyhyrau’n dod arnyn nhw, a chroen yn ffurfio amdanyn nhw, ond doedd dim anadl ynddyn nhw.